Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Chwefror 2021
Amser y
cyfarfod: 12.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11180
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 12.45
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 13.31 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro am 3 munud.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.34
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
4 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.17
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn dilyn y llifogydd diweddar sydd wedi effeithio cymunedau ar draws Cymru?
5 Datganiadau 90 eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.23
Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad am: Taith gyntaf Peiriant Stêm Trevithick o Benydarren, Merthyr Tudful i Abercynon
Gwnaeth Nick Ramsay ddatganiad am: Pythefnos Masnach Deg – Ailgodi’n Decach.
Gwnaeth David Rees ddatganiad am: 50 mlynedd o’r ddeddf gofal gwrthgyfartal.
Gwnaeth Angela Burns ddatganiad am: Diwrnod Clefydau Prin rhyngwladol – 28 Chwefror
6 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Dechreuodd yr eitem am 15.30
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7478 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau;
b) sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL i rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru;
c) ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, a sefydlu nodau strategol i wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau BSL ar draws cymdeithas; a
d) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant BSL, a gwella mynediad at wasanaethau rheng flaen.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
15 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Parth perygl nitradau Cymru gyfan
Dechreuodd yr eitem am 16.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7599 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad i gyflwyno parth perygl nitradau Cymru gyfan.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
2 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi uchelgais ffermio Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd o ran natur a’r hinsawdd ac ymuno â’r undebau ffermio i gydnabod bod un achos o lygredd amaethyddol yn un achos yn ormod.
Yn cydnabod bod ffermio yng Nghymru yn cynnig llawer o’r atebion pwysicaf i argyfwng yr hinsawdd, a bod llawer o ffermwyr Cymru eisoes wedi sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i’w harferion ffermio.
Yn derbyn bod rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o’r ymdrech i sicrhau allyriadau sero-net yng Nghymru ac ar draws y DU.
Yn cytuno mai’r cam cyntaf i daclo allyriadau amaethyddol yw cynnal y mesurau rheoli da sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y rhan fwyaf o ffermwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
4 |
21 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7599 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi uchelgais ffermio Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd o ran natur a’r hinsawdd ac ymuno â’r undebau ffermio i gydnabod bod un achos o lygredd amaethyddol yn un achos yn ormod.
2. Yn cydnabod bod ffermio yng Nghymru yn cynnig llawer o’r atebion pwysicaf i argyfwng yr hinsawdd, a bod llawer o ffermwyr Cymru eisoes wedi sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i’w harferion ffermio.
3. Yn derbyn bod rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o’r ymdrech i sicrhau allyriadau sero-net yng Nghymru ac ar draws y DU.
4. Yn cytuno mai’r cam cyntaf i daclo allyriadau amaethyddol yw cynnal y mesurau rheoli da sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y rhan fwyaf o ffermwyr.
5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno cynigion i fynd i'r afael â llygredd yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
12 |
13 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
8 Dadl Plaid Cymru - Cymhwystra prydau ysgol am ddim
Dechreuodd yr eitem am 16.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7598 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
2 |
31 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fynd heb fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddileu tlodi a newyn.
2. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau'r ysgol;
b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy'n hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl opsiynau sydd ar gael o ran adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
3 |
19 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7598 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fynd heb fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddileu tlodi a newyn.
2. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau'r ysgol;
b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy'n hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl opsiynau sydd ar gael o ran adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
3 |
19 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
9 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.06 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.10.
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.15
NDM7595 David Melding (Canol De Cymru)
Adolygiad Cumberlege: gwersi ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth yn y GIG.
11 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.39
NDM7597 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Pa ddyfodol sydd i'r diwydiant pysgota morol?
Daeth y cyfarfod i ben am 17.59
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2021